Guto Morgan (b. 1991) is an artist based in Ystrad Meurig, Wales. He gathers and paints inherited, foraged and sometimes contrasting motifs in an attempt to map the ever-mosaic present. He is interested in the transactions between materials, their histories and their social impact, and in the tensions and spaces that are found between the pre-digital past and the ever elusive present. For Morgan, the canvas is an open, contemplative site and a window for reflection.

Recently, he presented the solo exhibition Tir (2023) at MOMA Machynlleth. Here he explored the formal and relational cues of his native, farmed landscape, its industrial, lived past, and socially charged present. Recent exhibitions include group shows such as Euro Starz in TICK TACK, Antwerp (2024) and Canaletto: Idyll and Industry at The National Library of Wales, Aberystwyth (2024).

Morgan has exhibited individually and collectively at institutions such as The Royal Scottish Academy, Edinburgh, Aberystwyth Arts Centre and galleries such as Canfas Gallery, Aberteifi and 3812 Gallery London. His work is held in both private and public collections, including The National Library of Wales’s picture collection. In 2019 he was selected for the 2020 RSA: New Contemporaries annual exhibition and in 2020 he was selected for the first ever Young Welsh Artists annual exhibition at MOMA Machynlleth. He was awarded the Prestigious Heatherwick Studio Residency at Aberystwyth Arts Centre in 2021, shortlisted for the Stephanie Fribourg Prize in 2023 and his work Frayed Roots was selected for the digital Olymp’Arts exhibition by the World Olymp’Arts Council and the Royal College of Art in 2023.

He holds a Master of Arts (RCA) in Painting from the Royal College of Art, as well as a BA in Fine Art Painting and Printmaking from The Glasgow School of Art.

Dull i ddehongli'r byd yw paentio i Guto Morgan (g. 1991). Ymddiddorai mewn trafodion rhwng deunyddiau, eu hanes a'u heffaith gymdeithasol; drwy hyn archwilir y tensiynau a'r bylchau a geir rhwng y gorffennol cyn-ddigidol a'r presennol dryslyd. Gwelai'r gynfas fel gofod agored i'w ddehongli - ffenest fyfyrio. Y tu ôl i'r gwydr hwn sigla'r llenni, osgiliad i raddau, rhwng yr hysbys a’r gorchuddiadau a ddatblyga trwy ansicrwydd, damwain neu dueddiadau pigmentau a lunnir alcemi hanfodol ei waith.

Cyflwynodd unawd Tir (2023) yn MOMA Machynlleth; yn ei arddangosfa archwiliodd arwyddion ffurfiol a pherthynol tirwedd ei fro, amaethyddol - ei hanes, ei ddiwydiannaeth, a'r baich cymdeithasol a ymgartrefa yno heddiw. Yn ddiweddar, roedd ei waith yn ran o gydsoddiadau megis Euro Starz yn TICK TACK, Antwerp (2024) a Canaletto: Delfryd a Diwydiant yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth (2024).

Arddangoswyd paentiadau Guto yn unigol ac ar y cyd mewn sefydliadau fel Academi Frenhinol yr Alban, Caeredin, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac orielau; Oriel Cynfas, Aberteifi a Galeri 3812 Llundain. Cedwir ei waith mewn casgliadau preifat a chyhoeddus, gan gynnwys casgliad lluniau Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn 2019 fe'i dewiswyd ar gyfer arddangosfa flynyddol RSA: Cyfoeswyr Newydd 2020 ac yn 2020 fe'i dewiswyd ar gyfer arddangosfa flynyddol gyntaf erioed Artistiaid Ifainc Cymru yn MOMA Machynlleth. Dyfarnwyd Preswylfa Stiwdio Heatherwick mawreddog iddo yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn 2021, a chyrhaeddodd restr fer Gwobr Stephanie Fribourg yn 2023. Detholwyd ei waith Frayed Roots ar gyfer arddangosfa ddigidol Olymp'Arts gan Gyngor Celfyddydau Gemau Olympaidd y Byd a'r Coleg Celf Frenhinol yn 2023.

Enillodd radd Meistr yn y Celfyddydau (RCA) mewn Peintio o'r Coleg Celf Frenhinol, yn ogystal â BA mewn Peintio Celf Gain a Gwneud Printiau o Ysgol Gelf Glasgow.